top of page

CROESO I ARDDANGOSFA GELF YSGOL Y DDERI AR - LEIN

Teulu a Ffrindiau

TEULU
Rydym wedi bod yn brysur tymor yma yn peintio ac rydym wedi bod yn dilyn ein thema ‘Galeri’. Mae hyn yn golygu ein bod wedi bod yn dysgu ein gwersi i gyd trwy thema celf, hyd yn oed Mathemateg a Gwyddoniaeth! Yn ein gwersi hanes rydym wedi astudio celf Byzantine a ‘r cyfnod Dadeni Eidalaidd ac rydym wedi bod yn dysgu popeth am eiconau.
We have been very busy painting this term as we have been following our Cornerstones theme of 'Galeri'.  This means that we have been learning all our lessons through the medium of Art, even Maths and Science.  In History we have studied Byzantine Art and the Italian Renaissance and have been learning all about Icons.
 
Roedd y rhain gan amlaf yn ddarnau celf bach a gwerthfawr ac fe gedwid hwy yn y cartref yn ogystal ag mewn eglwysi. Yn draddodiadol byddent yn ddarluniau o seintiau a oedd yn ffefrynnau ac wrth drysori’r eiconau byddai pobl yn derbyn cysur a thawelwch meddwl ac yn teimlo presenoldeb y sant roeddem yn ei glodfori.
These were usually small and very precious artworks and were often kept in the home as well as in churches.  They traditionally depicted favourite saints and in treasuring these icons people were comforted and reassured and felt the presence of the saints they looked up to.

 

Cyswllt Dreigiau

Mae hwn yn fy atgoffa o fy mam yn magu fy chwaer Charlie pan oedd yn fabi. Peintiwyd eiconau traddodiadol yn ystod amser Byzantine er mwyn atgoffa pobl o’r hyn oedd yn bwysig iddynt. Rwy’n caru dreigiau ac asynnod a chefais fy ysbrydoli pan welais lun o’r  Madonna a’i Phlentyn.  Peintiais yr olygfa hon  o’r “Donkagon “ifanc “ gyda’i fam  o olygfa  o’r ffilm “Shrek”. (cymysgfa  rhwng draig ac asyn) . Cymerais lawer o amser i astudio'r delweddau er mwyn cael yr ystum yn gywir. Dyfeisiais yr ogof er mwyn rhoi lle saff iddynt gysgu, pawb wedi swatio’n braf!

Dragon Connection

This reminds me of my mum holding my sister Charlie when she was a baby.  Traditional icons were painted in Byzantine times to remind people of what really mattered to them.  I love dragons and donkeys and was inspired by seeing a painting of the Madonna and Child.  I painted this scene from the film Shreck of a young ‘Donkagon’ (a mixture between a dragon and a donkey) and his mother.  I spent a lot of time researching images to get the pose right.  I invented the cave to give them a safe place to sleep, all snuggled up!

Nefoedd Cath
Rwy'n credu bod artistiaid yn peintio lluniau er mwyn dangos yr hyn maent yn gofalu / gofidio am ac er mwyn mynegi eu hunain.  Dewisais i beintio llun o St. Francis gyda fy nghath, Max oherwydd buodd e farw llynedd ac rydw i’n gobeithio ei fod wedi mynd at St. Francis. Roedd Max yn gath annwyl ac rwy’n hapus ei fod wedi dewis fy ngharu i. Mae aur yr eurgylch yn cynrychioli’r nefoedd.  Efallai y byddech yn meddwl ei fod o liw  “Glas Rwsia” ond dim ond  cath lwyd arbennig  yw e.  Cefais fy ysbrydoli gan beintiad traddodiadol  o St. Francis o gyfnod  y Dadeni Eidalaidd.

Feline Heaven

I think artists paint their pictures to show what they care about and to express themselves.  I chose to paint St.Francis with my cat, Max because he passed away last year and I hope he has gone to St. Francis.  He was a very dear cat and I’m just happy that he chose to love me, and the gold of the halo is to represent the heavens.  You might think that he’s a ‘Russian Blue’ but he’s just a very special grey cat.  I was inspired by a traditional painting of St Francis from the Italian Renaissance.

Ffrind Gorau Sant

Dewisais i olygfa o ffilm am  St. Francis a’r blaidd . Rwy’n caru bleiddiaid ac roeddwn am i fy llun edrych yn realistig.  Rwyf wedi ei beintio mewn  ffordd draddodiadol  trwy ddefnyddio isbaent “gesso” ag arferid cael ei wneud  o groen cwningen wedi berwi, ond defnyddiais i botyn o’r siop! Gan fod St. Francis yn  nawddsant anifeiliaid mae’r peintiad hwn yn dangos faint o amser  ac ymddiriedaeth  oedd ganddo i’w roi i anifeiliaid  ac fel tâl roedd yr anifeiliaid yn ei garu ac yn ymddiried ynddo ef.  Er mwyn gwneud i’r blaidd edrych yn  flewog mi wnes i ddablo gyda fy mrws paent ac er mwyn gwneud y coed i edrych yn realistig defnyddiais  gymaint â phosib o arliwiau  gwyrdd.

A Saint’s Best Friend

I chose a scene from a film about Saint Francis and a wolf because I love wolves and because I wanted my picture to look realistic.  I have still painted it in a traditional way by using a gesso undercoat which used to be made out of boiled rabbit skins but I used a pot from a shop!  As Saint Francis is the patron saint of animals this painting shows how much time and trust he has to give to animals and in return the animals love and trust him.  To make the wolf’s fur look fluffy I just dabbed with my paintbrush and to make the trees look realistic I used as many shades of green as possible.

Ceffyl Penigamp
Fy eicon i yw fy ngheffyl Silwen. Rwyf wedi ei pheintio hi oherwydd ei bod yn edrych ar fy ôl mor dda ac am iddi fy amddiffyn rhag cael fy mrathu gan geffyl arall. Rwyf wedi rhoi St. Francis yn y llun gyda hi am ei fod yn caru anifeiliaid a cheffylau hefyd. Ysbrydolodd St. Francis fi oherwydd mae ef yw nawddsant natur ac anifeiliaid. Dewisais y cefndir i gynrychioli machlud haul, ac mae’r glaswellt yn tyfu’n dywyllach yn y pellter.

Superhorse

My icon is about my horse Silwen.  I have painted her because she looks after me so well and saved me from getting bitten by another horse.  I have put Saint Francis in the picture with her because he loves animals and horses too.  He inspired me because he is the saint of nature and animals.  I used acrylic paint on the piece of wood so that the thick paint gives it texture.  I chose the background so it looked like a sunset, and the grass grows darker in the distance.

Mam a’i Phlentyn
Fy mam a fi pan oeddwn yn fabi a ysbrydolodd fy eicon i. Hefyd cefais fy ysbrydoli gan beintiad o’r Madonna a’i Phlentyn. Mae fy eicon yn cynrychioli fy mam oherwydd ei bod yn berson arbennig imi ac rwy’n ei charu hi’n fawr iawn. Mae cefndir y llun wedi ei beintio’n las am ei fod yn lliw ysbrydol a thawel. Defnyddiais frws bach er mwyn gwneud cyffyrddiadau bychan a wnaeth i’r lliw glas ddod yn fyw. Mae aur yr eurgylch yn cyferbynnu gyda’r cefndir glas.
Mother and Child

My icon is about me and my mum when I was a baby which is why I was inspired by a painting of the Madonna and Child.  My icon represents my mum because she is very special to me and I love her very much.  I painted blue in the background as it is a very spiritual and calm colour.  I used a little brush to make little brush strokes which made the blue colour come to life.  The gold colour of the halos contrasts with the blue background.

Angylion
Eicon i atgoffa pobl o bwy ydynt a sut maent yn perthyn a’r hyn sy’n bwysig iddynt. Person pwysig yn fy mywyd yw fy eicon i. Roedd hi’n hapus a thalentog. Roedd yn caru storiau T.Llew Jones a dyna pam rwy’n darllen llyfr o waith T.Llew Jones yn y llun. Cefais fy ysbrydoli gan sut roedd yn canu’r trwmped ac rwyf i’n dysgu canu’r piano. Rwy’n caru ei dawn ac mae’r ddawn yn cael ei basio i lawr trwy’r teulu. Mae hi’n arbennig iawn imi byddai’n arfer edrych ar fy ôl trwy’r amser ond nid bellach. Mae gan y nefoedd angel newydd.

Angels

An icon is to remind people about who they are and how they belong and what is important to them.  My icon is about a very important person in my life.  She was very happy and talented.  She loved T. Llew Jones stories and that is why I am reading a T. Llew Jones book in the picture.  I was inspired by how she could play the trumpet and I am learning to play the piano.  I love her talent and the talent is passing down through the family.  She is very special to me because she used to look after me all the time but not anymore.  Heaven has got a new angel.

bottom of page